Ymwadiad: Rydym yn gweithio i wella hygyrchedd ein cynnwys. Er bod y wybodaeth a roddir ar y dudalen hon yn Gymraeg, caiff dolenni i wybodaeth bellach eu darparu yn Saesneg.
Beth rydym yn ei wneud
Mae Gwasanaeth Cynghori Perfformiad Ymarferwyr yn darparu cefnogaeth i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a’r Byrddau Iechyd GIG Cymru a enwebwyd ganddynt. Mae hyn yn cynnwys:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
Rydym yn darparu cyngor diduedd i sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru er mwyn ymdrin yn effeithiol â phryderon a godir ynglŷn ag ymarfer meddygon, deintyddion, fferyllwyr ac optometryddion unigol a’u datrys.
Mae’r berthynas rhwng cyflogwyr a’n cynghorwyr cyswllt yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr fel modd i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau. Mae lefelau bodlonrwydd ein defnyddwyr ar draws y system iechyd yn gyson uchel, gan gynnwys Cyfarwyddwyr Meddygol, gweithwyr AD proffesiynol a Swyddogion Cyfrifol. Mae adborth yn amlygu bod ein gwasanaeth yn “darparu gwiriad synnwyr da ac yn helpu i ganfod ffordd ymlaen” wrth ystyried camau gweithredu mewn perthynas â phryderon am berfformiad.
Nid oes trothwy ar gyfer cysylltu â ni, felly gorau oll os cysylltwch chi â ni cyn gynted ag y dewch i wybod am bryder ynglŷn â pherfformiad, gallu neu ymddygiad.
Cefnogaeth cynghorydd yng Nghymru
Paul Hutchings ydy’r Cynghorydd cyswllt ar gyfer Cymru ac mae’n darparu cyngor arbenigol, diduedd ac annibynnol, cefnogaeth ac arweiniad ynglŷn ag ymdrin â phryderon am berfformiad a’u rheoli, gan gynnwys y rhai sy’n cynnwys gwahardd, atal dros dro neu gyfyngu ar ymarfer.
Cysylltwch â Paul ar paul.hutchings3@nhs.net neu paul.hutchings@wales.nhs.uk.
Neu ffoniwch 020 7811 2600 neu e-bostiwch: nhsr.advice@nhs.net.
Cynnal Safonau Proffesiynol yng Nghymru
Ers 2015, rhaid ymdrin â phryderon ynglŷn â gallu, perfformiad ac ymddygiad ar gyfer yr holl feddygon a deintyddion a gyflogir gan Fyrddau Iechyd Lleol neu sefydliadau GIG eraill yng Nghymru drwy ddefnyddio fframwaith Cynnal Safonau Proffesiynol yng Nghymru (CSPNg). Rydym yn cyfeirio at hwn pan fyddwn yn helpu’r rhai sy’n gyfrifol am reoli perfformiad ymarferwyr i ganfod eu ffordd drwy’r hyn all fod yn bryderon cymhleth ynglŷn ag ymddygiad neu faterion clinigol, gyda golwg ar gefnogi datrysiad cynnar tra’n parhau i hyrwyddo diogelwch cleifion a diogelu’r cyhoedd.
Perfformiad contractwyr
Rydym yn gweithio gyda Byrddau Iechyd i ddarparu cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â phryderon am ymarferwyr sy’n contractio gyda nhw e.e. Meddygon teulu gofal sylfaenol, deintyddion, fferyllwyr ac optometryddion.
Gwaharddiadau/Atal dros dro a chyfyngu ar ymarfer
Mesur byrdymor, dros dro ydy gwaharddiad rhag ymarfer fel arfer, er mwyn tynnu ymarferwyr o’u man gwaith arferol hyd nes y bydd natur ac achos pryder ynglŷn â pherfformiad wedi’u deall. Gallai hynny fod trwy ymchwiliad ffurfiol neu drwy gyfnod o weithredu lleol neu ailhyfforddi. Ar gyfer meddygon a deintyddion a gyflogir, rhoddir manylion y broses ar gyfer gwahardd ymarferydd yn CSPNg.
Ar gyfer meddygon a deintyddion ar y Rhestr Cyflawnwyr, nodir y rhesymau dros wahardd yn Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004.
Yn y ddau sector, rydym yn darparu cyngor a her pan fydd unrhyw ymarferwyr yn cael eu gwahardd neu eu hatal dros dro er mwyn sicrhau bod y penderfyniad yn gymesur ac yn deg. Mewn sawl achos, gall cyfyngu ar ymarfer fod o fwy o gymorth ac rydym yn gallu darparu cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â’r dewisiadau eraill yn lle gwahardd neu atal dros dro drwy drafodaeth fanwl am yr achos.
Rydym yn darparu adnoddau i helpu gyda phrosesau gwneud penderfyniadau, cofnodi a rheoli gwaharddiad, yn ogystal â rhannu’r hyn a ddysgwyd o achosion gwahardd dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Dysgwch fwy am ein hadnoddau am waharddiadau.
Asesu ac Unioni
Mewn rhai achosion, gallwn gynnal asesiad o berfformiad clinigol neu ymddygiadau proffesiynol, a gallai hynny helpu i wneud amgylchiadau’r ymarferydd unigol yn eglur a dod i’w deall.
Rydym hefyd yn drafftio cynlluniau gweithredu ar gyfer ymarferwyr sydd angen cefnogaeth i ddarparu ymarfer diogel ac effeithiol neu sy’n dychwelyd i’r gwaith wedi cyfnod hir o absenoldeb.
Nod yr ymyriadau hyn ydy:
- cefnogi datrysiadau rheolwyr lleol, sydd yn amserol ac yn deg, er mwyn datrys pryderon ynglŷn â pherfformiad.
- darparu gwybodaeth i gynorthwyo rheolwyr lleol gyda phenderfyniadau am y camau nesaf wrth iddynt ymdrin â’u hachosion.
- helpu i amddiffyn y cyhoedd a sicrhau diogelwch cleifion.
Pan fydd trafferthion yn y berthynas rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol, gall ein gwasanaeth cyfryngu helpu i gefnogi camau i’w datrys. Neu, os yw’r pryderon yn ymwneud â’r modd y mae tîm clinigol yn gweithredu, gallwn gynnal adolygiad tîm er mwyn canfod unrhyw rwystrau rhag datrys y problemau ac awgrymu cynllun ar gyfer gwella perthnasoedd proffesiynol yn y tîm.
Dysgwch ragor am wasanaethau asesu ac unioni.
Addysg
Mae ein gweithdai hyfforddi sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’u hachredu ar gyfer DPP yn helpu i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer canfod, rheoli a chefnogi datrysiadau lleol teg ac amserol ar gyfer pryderon ynglŷn â pherfformiad. Dan arweiniad cynghorwyr profiadol, mae mynychwyr yn cael cyfle i ddysgu mewn amgylchedd diogel a chefnogol ble gallant ryngweithio, dysgu gwybodaeth, profi dulliau, rhwydweithio a rhannu arfer da.
Gellir teilwra gweithdai yn ôl anghenion sefydliadau a’u darparu wyneb yn wyneb neu drwy MS Teams. Mae digwyddiadau mewnol a chyrsiau sydd ar agor yn ‘gyhoeddus’ i archebion unigol ar gael hefyd.
I weld rhestr o’r digwyddiadau y gofynnir amdanynt fwyaf aml, ewch i’n tudalen digwyddiadau. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni ar nhsr.adviceeducation@nhs.net. Mae rhaglenni wedi’u teilwra’n arbennig ar gael ar gais.
Dealltwriaeth
Rydym yn cynnal ymchwil sy’n deillio o’n profiad helaeth yn darparu cyngor arbenigol, diduedd ac ymyriadau i sefydliadau gofal iechyd er mwyn ymdrin yn effeithiol â phryderon a godir ynglŷn ag ymarfer ymarferwyr gofal iechyd unigol a’u datrys.
Drwy rannu’r ddealltwriaeth a ddaw o’r ymchwil hwn, ein nod yw cynorthwyo’r system gofal iechyd i ddeall, rheoli a datrys pryderon ynglŷn â meddygon, deintyddion, fferyllwyr neu optometryddion yn well.
Dysgwch fwy am y ddealltwriaeth a gawn drwy ymchwil.
Working with NHS Wales/GIG Cymru
Disclaimer: We are working to improve the accessibility of our content. Whilst the information provided on this page is provided in Welsh, links to further information are provided in English.
What we do
The Practitioner Performance Advice Service provides support to the NHS Wales Shared Services Partnership and their nominated NHS Wales Health Boards. This includes:
- Betsi Cadwaladr University Health Board
- Hywel Dda University Health Board
- Cwm Taf Morgannwg University Health Board
- Cardiff and Vale University Health Board
- Swansea Bay University Health Board
- Aneurin Bevan Health Board
- Powys Teaching Health Board
- Velindre University NHS Trust
- Welsh Ambulances Services NHS Trust
- Public Health Wales
- Health Education and Improvement Wales (HEIW)
- Healthcare Inspectorate Wales (HIW).
We provide impartial independent advice to healthcare organisations in Wales to effectively manage and resolve concerns raised about the practice of individual doctors, dentists, pharmacists and optometrists.
The relationship between an employer and our link advisers is highly valued as a way of supporting decision-making. We receive consistently high levels of satisfaction from our users across the health system, which include Medical Directors, HR professionals and Responsible Officers. Feedback highlights that our service “provides a good sense check and helps to identify an appropriate way forward” when considering actions relating to performance concerns.
There is no threshold for getting in touch with us, so please make contact as soon as you become aware of a performance, capability or conduct concern.
Adviser support in Wales
Paul Hutchings is the link Adviser for Wales and provides expert, neutral and independent advice, support and guidance on handling and managing performance concerns, including those that involve exclusion, suspension or restriction of practice.
Contact Paul at paul.hutchings3@nhs.net or paul.hutchings@wales.nhs.uk.
Alternatively call 020 7811 2600 or email: nhsr.advice@nhs.net.
Upholding Professional Standards in Wales
Since 2015, concerns around capability, performance and conduct for all doctors and dentists employed by Local Health Boards or other NHS organisations in Wales must be addressed using the Upholding Professional Standards in Wales (UPSW) framework. We refer to this when helping those responsible for managing practitioner performance navigate their way through what can be complex behavioural and/or clinical concerns, with a view to supporting early resolution, whilst promoting patient safety and public protection.
Contractor performers
We work with Health Boards to provide advice and support around concerns about practitioners who contract with them e.g. Primary care GPs, dentists, pharmacists and optometrists.
Exclusions/Suspension and restriction of practice
Exclusion from practice is usually a short-term, temporary measure to remove a practitioner from their usual place of work until the nature and cause of a performance concern are understood. This may be via a formal investigation or through a period of local action or retraining. For employed doctors and dentists, the process to exclude a practitioner is detailed in UPSW.
For doctors and dentists on the Performers List, the reasons for suspension is specified within The National Health Service (Performers List) (Wales) Regulations 2004.
In both sectors, we provide advice and challenge when any practitioner is being excluded or suspended to ensure that the decision is both proportionate and fair. In many cases, restriction of practice can be more helpful and we are able to provide advice and support on the alternatives to exclusion or suspension through detailed case discussion.
We provide resources to help with decision making, documenting and managing an exclusion, as well as sharing learning from exclusion cases over a ten-year period.
Find out more about on our exclusion resources.
Assessment and Remediation
In some cases, we can carry out an assessment of clinical performance or professional behaviours, which help to clarify and understand the circumstances of the individual practitioner.
We also draft action plans for practitioners who need support to deliver safe and effective practice or who are returning to work after a long absence.
The aim of these interventions is to:
- support local management solutions, which are timely and fair, to resolve concerns about performance
- provide information to assist local management in decisions about the next steps in their management of their cases
- help ensure public protection and patient safety.
Where there are relationship difficulties between healthcare professionals, our assisted mediation service can help support their resolution. Alternatively, if concerns relate to the functioning of a clinical team, we can undertake a team review to identify any barriers to resolving the issues and suggest a plan for improving professional relationships within the team.
Find out more about assessment and remediation services.
Education
Our evidence based, CPD accredited training workshops help provide the knowledge and skills to identify, manage and support the fair and timely local resolution of performance concerns. Led by experienced advisers, delegates have opportunity to learn in a safe and supportive environment where they can interact, gain knowledge, test approaches, network and share good practice.
Workshops can be tailored to suit organisational needs and delivered face to face or via MS Teams. In-house events and ‘public’ access courses for individual bookings are also available.
For a list of our most frequently requested events, visit our events page. If you can’t find what you are looking for please contact us at nhsr.adviceeducation@nhs.net. Bespoke programmes are available on request.
Insights
We undertake research drawing on our in-depth experience providing expert, impartial advice and interventions to healthcare organisations to effectively manage and resolve concerns raised about the practice of individual healthcare practitioners.
By sharing the insights from this research, we aim to support the healthcare system to better understand, manage and resolve concerns about doctors, dentists, pharmacists or optometrists.
Find out more about our research insights.
Page last updated on: